Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Mai 2017

Amser: 09.09 - 10.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4137


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mike Hedges AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Janet Finch-Saunders AC

Neil McEvoy AC

Tystion:

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Rhodri Griffiths, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 556KB) Gweld fel HTML (235KB)

 

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

</AI2>

<AI3>

2       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

2.1   P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebwyr cyn trafod y camau nesaf i'w cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb.

 

</AI4>

<AI5>

2.2   P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn y cwestiynau penodol a godwyd gan y deisebwyr.

 

</AI5>

<AI6>

2.3   P-05-752 Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd cyn penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb.

 

</AI6>

<AI7>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI7>

<AI8>

3.1   P-05-712 Byddai Adran Llywodraeth Cymru o fewn Ewrop yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru mewn trafodaethau parhaus

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Prif Weinidog a gofyn am atebion i'r cwestiynau a ofynnwyd.

 

</AI8>

<AI9>

3.2   P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb a rhoi gwybodaeth bellach i'r deisebydd o ran sut y gallai fynegi ei bryderon ynghylch yr ystyriaeth a roed eisoes i'r ddeiseb.

 

</AI9>

<AI10>

3.3   P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i:

 

·         nodi'r pryderon a godwyd gan y deisebydd;

·         gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran unedau anhwylder bwyta; a

·         gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor pan gyhoeddwyd canlyniadau'r adolygiad ffurfiol ar y Fframwaith Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru.

 

</AI10>

<AI11>

3.4   P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am ei sylwadau ar yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor Iechyd Cymunedol a'r Pwyllgor Meddygol Lleol, ynghyd â:

o   Nodi'r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol ynghylch gwasanaethau i'w cynnig gan y ganolfan iechyd newydd yn Blaenau o haf 2017;

o   Gofyn a yw'r Bwrdd Iechyd yn ystyried y bydd y Ganolfan yn cynnig y lefel o ofal lleol a ragwelir gan Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid yn 2012;

o   Gofyn sut yr eir i'r afael â'r diffyg parhaus canfyddedig o welyau cleifion a'r anhawster recriwtio meddygon teulu yn yr ardal;

o   Ei safbwynt o ran y diffyg cartrefi nyrsio cofrestredig yn yr ardal neu gartrefi gofal sy'n gallu darparu gofal ar raddfa lai.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i roi gwybod iddynt am y ddeiseb a gofynna fyddai'n helpu gydag unrhyw beth o'u gwaith cyfredol.

 

 

</AI11>

<AI12>

3.5   P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb o ystyried i'r prif elfen - sef adolygu'r 'rheol eithriadol' - gael ei ddiwallu.

 

 

</AI12>

<AI13>

3.6   P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am sylwadau’r deisebydd ar yr ohebiaeth ddiweddar cyn cytuno ar y camau nesaf i'w cymryd.

 

</AI13>

<AI14>

3.7   P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am ragor o fanylion am y cynnig i gyfyngu ar y gwaith datblygiad glo newydd sydd wrthi'n cael ei ystyried i ymgynghori arno fel rhan o'r adolygiad o Bolisïau Cynllunio yng Nghymru y llynedd.

 

</AI14>

<AI15>

3.8   P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am ragor o fanylion am y cynnig i gyfyngu ar y gwaith datblygiad glo newydd sydd wrthi'n cael ei ystyried i ymgynghori arno fel rhan o'r adolygiad o Bolisïau Cynllunio yng Nghymru y llynedd.

 

</AI15>

<AI16>

3.9   P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau Cynllunio yn Rhoi Sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Cymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol Lleol, neu i’r Posibilrwydd y bydd y Grwpiau a'r Sefydliadau hyn yn cau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'r Pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth sy'n fater digon arwyddocaol yn ogystal â diffyg cysylltiad â'r deisebydd.

 

</AI16>

<AI17>

3.10P-05-741 Mae angen cyfyngiadau llymach ar Cyfoeth Naturiol Cymru.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail bod:

·         Adnoddau Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod barn tirfeddianwyr a meddianwyr, yn ogystal ag ystyriaethau economaidd ehangach, yn cael eu hystyried wrth benderfynu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig;

·         Nid yw'r Pwyllgor yn gallu ymyrryd yn y sefyllfa benodol dan sylw gyda'r tir wedi'i feddiannu gan y deisebydd.

 

</AI17>

<AI18>

3.11P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn y cwestiynau penodol a gynigiwyd gan y deisebydd.

 

</AI18>

<AI19>

3.12P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, gan gynnwys sylwadau diweddaraf y deisebydd, a gofyn a fyddai ef neu ei swyddogion yn barod i gwrdd â'r deisebwyr i drafod eu sylwadau a chynnig cefnogaeth mewn rhagor o fanylder.

 

</AI19>

<AI20>

3.13P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ddarparu'r rhagor o dystiolaeth a dderbyniwyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a gofyn am ragor o fanylion am yr amserlen ar gyfer yr adolygiad arfaethedig a dadansoddiad annibynnol o hysbysiadau cosb benodedig.

 

</AI20>

<AI21>

3.14P-05-694 Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         cau'r ddeiseb gan fod hyn yn fater o gyfrifoldeb i ysgolion unigol ac nid oes tystiolaeth ddigonol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad gan y Pwyllgor Deisebau; a

·         diolch i'r deisebydd am i ymgysylltiad â'r broses ddeisebau a dymuno'r gorau iddo yn y dyfodol.

 

 

</AI21>

<AI22>

3.15P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn cynnwys y sylwadau a dderbyniwyd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, a gofyn a yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i gynnwys awtistiaeth fel gofyniad yn y rhaglen newydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon o 2019.

 

 

</AI22>

<AI23>

3.16P-05-735 Gwneud y cyfnod sylfaen yn fwy effeithiol ar gyfer ein plant, darparu mwy o athrawon a dileu y TASau blwyddyn 2.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am ei sylwadau ar yr ymateb a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

</AI23>

<AI24>

3.17P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y deisebwyr i rannu cynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo asedau i'r gofeb

·         chau'r ddeiseb. 

 

</AI24>

<AI25>

3.18P-05-692 Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         anfon sylwadau diweddaraf y deisebydd ymlaen at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith; a

·         ystyried cau'r ddeiseb y tro nesaf y caiff ei hystyried.

 

 

</AI25>

<AI26>

3.19P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

 

·         Trenau Arriva Cymru i rannu pryderon y deisebydd a gofyn a fyddent yn ystyried gwneud newidiadau i'r trefniadau diogelwch ar y platfform yng ngorsaf Treorci, gan gynnwys maint y lloc ar gyfer disgyblion; ac

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i roi gwybod iddo am sylwadau'r deisebydd mewn perthynas â diogelwch disgyblion ar y platfform yng ngorsaf Treorci.

 

</AI26>

<AI27>

3.20P-05-720 Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang Ffibr Opteg yn y Pentref

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr amserlen debygol ar gyfer cynnig band eang ffibr opteg i adeiladau yn Hirwaun a Phenderyn.

 

 

</AI27>

<AI28>

3.21P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ddisgwyl am ganlyniad yr Adolygiad Terfyn Cyflymder sydd i gychwyn yn haf 2017.

 

</AI28>

<AI29>

3.22P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn a wnaiff ystyried adolygu'r meini prawf ar gyfer pellter trafnidiaeth rhwng cartref ac ysgol, neu fesurau gwahanol i wella diogelwch myfyrwyr wrth deithio i'r ysgol.

 

</AI29>

<AI30>

3.23P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu at y Llywydd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau a gymerwyd i wneud y sylw a roddir i drafodion y Cynulliad yn fwy hygyrch i bobl fyddar ers yr ohebiaeth flaenorol a dderbyniwyd gan ei rhagflaenydd ym mis Mai 2014; ac

·         rhoi gwybod i'r deisebydd na ally Pwyllgor fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â hygyrchedd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar ac y dylid codi'r mater gyda'r grŵp ei hun.

 

</AI30>

<AI31>

3.24P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am ei ymateb i'r sylwadau pellach a wnaed gan y deisebydd.

 

</AI31>

<AI32>

3.25Peidiwch â gadael i Forsythia gau!

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

 

·         y Prif Gorff Cyflenwi Cymunedau yn Gyntaf sy'n gyfrifol am Ganolfan Ieuenctid Forsythia i ofyn am wybodaeth ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol ar gyfer y grŵp, o ystyried llwyddiant ymddangosiadol y gwaith a wnaed;

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, er mwyn rhannu'r fideo a'r wybodaeth a dderbyniwyd gan Ganolfan Ieuenctid Forsythia, a mynegi pryder ynghylch effaith a allai colli prosiectau llwyddiannus fel hyn ei chael ar ardaloedd lleol;

·         Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn a oes llwybr i gefnogi prosiectau megis Canolfan Ieuenctid Forsythia drwy waith ieuenctid; 

·         Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i rannu'r fideo a'r wybodaeth a dderbyniwyd gan Ganolfan Ieuenctid Forsythia a gofyn am eu sylwadau; a

·         Canolfan Ieuenctid Forsythia i ddiolch iddynt am ddarparu'r fideo i'r Aelodau yn mynegi eu pryderon ac am fod yn yr oriel gyhoeddus ar gyfer y cyfarfod.

 

 

</AI32>

<AI33>

3.26P-04-524 Rheolaeth Gynllunio a’r Gymraeg

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cyfnod o amser a oedd wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf.

 

</AI33>

<AI34>

3.27P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cyfnod o amser a oedd wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf.

 

</AI34>

<AI35>

4       Sesiwn dystiolaeth - P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Bu i Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. a Rhodri Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth ateb cwestiynau gan y Pwyllgor

 

 

</AI35>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>